Tîm Cyflenwi Lleol Gwent

1 of 9
2 of 9
3 of 9
4 of 9
5 of 9
6 of 9
7 of 9
8 of 9
9 of 9

Rydym yn hyfforddi ein Swyddogion Heddlu i ymateb yn well i bobl sydd wedi profi Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE), ac rydym yn gweithio gydag ysgolion ac asiantaethau partner eraill i adnabod plant a theuluoedd sydd angen cymorth yn gynnar, ac i weithio fel un tîm i ddarparu’r hyn sydd ei angen arnynt.

Rydym eisiau gweithio gydag oedolion sydd hefyd wedi profi ACE, gan ein bod yn credu nad yw byth yn rhy hwyr i dorri'r cylch hwn.

Credwn mai'r ffordd orau i sicrhau newid parhaol yw i wneud hyn gyda'n partneriaid a'n cymunedau; y bobl sy'n byw ac yn gweithio ochr yn ochr â ni bob dydd. Gallwn gael effaith llawer mwy os yn mynd i'r afael â hyn gyda'n gilydd. Gall ACE bara am oes, ond nid oes rhaid iddynt.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth lunio ein cymunedau a gwella bywydau pobl eraill. Mae gan y prosiect hwn y potensial i newid bywydau ar gyfer cenedlaethau i ddod ac rydym yn falch o fod yn rhan o hyn.

Y tîm

Rachel Allen, Swyddog Cyflawni Gwent

Ymunodd Rachel â Heddlu Gwent yn 2003 fel Swyddog Gofal Tystion. Yn 2005, llwyddodd Rachel i sicrhau rôl Cydlynydd Cam-drin Domestig Sir Fynwy; rôl a ddatblygodd i fynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Yn ystod ei chyfnod fel cydlynydd, sicrhaodd Rachel gyllid i gael gafael ar adeilad a chreu canolfan aml-asiantaeth gyntaf Sir Fynwy ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Yn 2014, ymunodd Rachel â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddau Gwent fel eu Swyddog Polisi, gan arwain ar gydraddoldeb, dioddefwyr ac yn ddiweddarach pob math o fregusrwydd. Yn 2017, crëodd Rachel y Strategaeth Lles a Bregusrwydd ar y cyd cyntaf ar gyfer SCHTh a Heddlu Gwent.

Yn 2018, fe dderbyniodd Rachel rôl Swyddog Darparu Rhaglenni ar gyfer Rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd Gwent.

Mae gan Rachel ferch, mae'n redwr brwd, yn mwynhau teithio ac mae hi ym mlwyddyn olaf ei Gradd Polisi Cymdeithasol a Throseddeg drwy’r Brifysgol Agored.

Rhian Bowen-Davies, Arweinydd y Bartneriaeth

Mae Rhian yn gweithio fel Cadeirydd annibynnol ac Ymgynghorydd Llawrydd sy'n cefnogi datrysiadau strategol a datblygiad sefydliadol.

Rhian oedd Ymgynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Cyn ei rôl fel Ymgynghorydd Cenedlaethol, gweithiodd Rhian fel swyddog heddlu cyn ennill cymhwyster Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol. Yn dilyn hyn, symudodd Rhian i'r sector gwirfoddol lle arweiniodd uniad cyntaf grwpiau Cymorth i Fenywod yng Nghymru, gan greu Calan DVS; sefydliad sy'n darparu cefnogaeth ac ymyriadau arbenigol i unigolion a theuluoedd sy'n dioddef trais a cham-drin domestig.

Yn ystod ei chyfnod yn arwain Calan DVS, enillodd Rhian wobr “Arweinwyr yng Nghymru” ar gyfer y Sector Gwirfoddol ac yn 2016, enillodd “Cyfarwyddwr y Flwyddyn” Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru a’r DU, ar gyfer y Sector Gwirfoddol a Dielw.

Mae Rhian yn byw yn Aberhonddu gyda'i gŵr ac mae'n mwynhau rhedeg, troelli a cherdded eu Labrador Du.