Tîm Cyflenwi Lleol Dyfed-Powys

1 of 3
2 of 3
3 of 3

Fel tîm, ceisiwn alluogi holl staff a phartneriaid yr heddlu sy'n cydweithio ar draws Dyfed-Powys i sicrhau parch a dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau ei gilydd, ac anghenion y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Er mwyn i ni, gyda'n gilydd, gefnogi unigolion yn ein cymunedau sy'n dewis newid.
 

Y tîm

Prif Arolygydd Dyfed Bolton, Arweinydd yr Heddlu

Mae gan Dyfed dros 20 mlynedd o brofiad plismona mewn amrywiaeth eang o rolau ar draws Dyfed-Powys gyfan, yn bennaf o ran Plismona yn y Gymdogaeth, Gweithio mewn Partneriaeth a Gweithrediadau Arbenigol.

Mae hyn wedi cynnwys bod yn Arolygydd Plismona Bro ar gyfer Llanelli, gan weithio'n agos gyda sefydliadau partneriaeth i atal trosedd ac anhrefn a chefnogi ac ymateb i anghenion y rhai mwyaf bregus yn y gymuned honno.

Rhwng 2010 a 2015, roedd Dyfed yn Arolygydd o fewn Gweithrediadau Arbenigol â chyfrifoldeb am feysydd megis Plismona'r Ffyrdd ac Ymchwilio Gwrthdrawiadau Marwol ar y Ffyrdd, ynghyd â chyfrifoldeb a lleoliad fel Comander Trefn Gyhoeddus yn lleol ac yn genedlaethol.

Ar ddiwedd 2015, dychwelodd Dyfed at ei wreiddiau cymunedol a phartneriaethol fel Prif Arolygydd Partneriaeth, yn cynnal portffolios amrywiol gan gynnwys atal Troseddau Ieuenctid, Troseddau Casineb, Seiberdroseddu ac arweinydd plismona ar y rhaglen Adleoli Ffoaduriaid Bregus o Syria.

Yn 2017, derbyniodd Dyfed rôl Rheolwr Digwyddiadau yr Heddlu a Chomander Arfau Tactegol, yn gyfrifol am y lleoli cychwynnol ym mhob digwyddiad digymell difrifol ac argyfyngus, gan gynnwys rhai ble mae angen defnyddio adnoddau arfau tân arbenigol. Ar ddiwedd haf 2018, penodwyd Dyfed yn arweinydd Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer y rhaglen ACE (Camau Cynnar gyda'n Gilydd).

Rhian Evans - Rheolwr Prosiect

Cwblhaodd Rhian ei chymwysterau hyfforddwr nofio, hyfforddwr ffitrwydd a hyfforddi personol yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Dulyn yn 2007 lle y parhaodd i weithio ac addysgu plant ac oedolion am nifer o flynyddoedd. Symudodd i Gaergaint yn 2010 gan ddilyn ei awch tuag at ddysgu.

Symudodd Rhian yn ôl i Gymru a dechreuodd weithio gydag ysgolion chwarae a nifer o ysgolion cynradd, gan ddarparu gwaith un-i-un a grŵp gyda phlant ag anableddau ac amrywiol anghenion dysgu, gan ganolbwyntio ar ddysgu a datblygiad plant.

Yn dilyn hyn, cyflogwyd Rhian fel ymgynghorydd hyfforddi i bobl ifanc a oedd wedi'u gwahardd o ddarparwyr addysg eraill, gan gynnwys troseddwyr ifanc, i ymgysylltu â chymunedau ac i'w hailintegreiddio i addysg a chyflogaeth. Aeth Rhian ymlaen i weithio fel rhan o'r tîm lles yng Ngholeg Ceredigion yn cefnogi myfyrwyr gyda'u hiechyd corfforol, emosiynol a meddyliol.

Ymunodd Rhian â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth 2018 fel Swyddog Cymorth i Ddioddefwyr a Thystion. Yma, roedd Rhian yn cwmpasu sir Ceredigion, gan weithio gydag aml-asiantaethau a swyddogion yr heddlu i ddarparu cefnogaeth emosiynol i ddioddefwyr troseddau. Ym Mehefin 2018, dechreuodd Rhian ar ei swydd fel Rheolwr Prosiect o fewn prosiect ACE Heddlu Dyfed-Powys.

Iwan Davies - Arweinydd Partneriaeth Rhanbarthol ACE Heddlu Dyfed Powys

Mae gan Iwan dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol a chymorth ieuenctid. Ar ôl dechrau ei yrfa fel Gweithiwr Cymdeithasol Cyfiawnder Ieuenctid yn Suffolk, mae Iwan wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae hyn wedi cynnwys: Swyddog Prawf yng Ngwasanaeth Prawf Gwent, Gweithiwr Remand ar yr adain pobol ifanc  yng Ngharchar Parc, Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol a Rheolwr Gweithredol yng Ngwasanaeth Troseddu ac Atal Troseddau Ieuenctid Sir Gaerfyrddin;  Cydlynydd Tîm o Amgylch y Teulu ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin; Secondiad I swydd uwch-gynghorydd yn y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (Cymru) ac yn fwy ddiweddar fuodd yn gweithio fel Rheolwr Cymorth Ieuenctid ar gyfer gwasanaethau 8-18 wedi'u targedu, gyda Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

Mae gan Iwan ddiddordeb brwd mewn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi profi trawma yn ystod plentyndod ac wedi arwain y gwaith o gyflwyno'r prosiect Fwyhau Rheolaeth Achosion, gan ddefnyddio'r model Adferiad Trawma gyda phobl ifanc sydd wedi cyflawni troseddau yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r ymagwedd wedi denu llawer o ddiddordeb yn genedlaethol ac yn cael ei threialu'n ehangach ar hyn o bryd.

Pan nad yn y gwaith, mae gan Iwan ddiddordeb mewn rhedeg (er yn araf). Mae hefyd yn mwynhau esgus ei fod yn ffermwr a potian yn yr ardd.