Tîm Cyflenwi Gogledd Cymru

1 of 7
2 of 7
3 of 7
4 of 7
5 of 7
6 of 7
7 of 7

Ein gweledigaethau yng ngogledd Cymru yw i gryfhau gwytnwch unigolion a chymunedau trwy gyfarwyddo cymdeithasol. Credwn fod hyn yn elfen hanfodol o sicrhau dull system gyfan wedi ei hysbysu gan ACE er mwyn deall bregusrwydd.

Bydd ymgysylltu, hysbysu a grymuso mudiadau gwirfoddol, cymunedau a dinasyddion sydd â diddordeb yn helpu i ymestyn y cyrhaeddiad a darparu effaith barhaol y tu hwnt i gyfnod ein rhaglen.
 

Y tîm

Y Ditectif Brif Arolygydd Helen Douglas - Arweinydd yr Heddlu

Helen Douglas yw Ditectif Brif Arolygydd, Heddlu Gogledd Cymru. Ymunodd Helen â Heddlu Gogledd Cymru yn 2000 ar ôl newid gyrfa o weithio fel Nyrs Bediatrig gymwys. Dros y 18 mlynedd diwethaf, mae Helen wedi gweithio mewn rolau amrywiol ar draws plismona rheng flaen yn ogystal â swyddi ditectif o fewn y Timau Diogelu a Digwyddiadau Mawr.

Mae Helen wedi bod yn Dditectif Arolygydd ers mis Tachwedd 2014 ac mae hyn wedi cynnwys rheoli ymchwiliadau troseddol ar gyfer cam-drin oedolion a phlant yn ogystal â phob agwedd ar risg sy'n gysylltiedig â diogelu a bregusrwydd.

Yn fwy diweddar, cynlluniodd a gweithredodd Helen Uned Gyfeirio Ganolog Ranbarthol ar gyfer diogelu ar draws gogledd Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys datblygu arferion gwaith i gefnogi ymyrraeth gynnar ac ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod.

Mae hi hefyd wedi llwyddo i sicrhau swydd fel Arweinydd Plismona Gogledd Cymru yn y Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd. Mae'r swydd hon yn secondiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru hyd 2020.

Vicky Jones - Arweinydd y Bartneriaeth

Cyn dechrau ar ei rôl fel Arweinydd Partneriaeth Gogledd Cymru rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd ym mis Gorffennaf 2018, gweithiodd Vicky fel Rheolwr Comisiynu a Datblygu Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru, gan gomisiynu ystod eang o wasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau cysylltiedig o fentrau atal hyd at ddarpariaeth sy'n canolbwyntio ar adfer.

Er enghraifft, yn 2014 arweiniodd Vicky ymarferiad comisiynu ar gyfer cynnwys defnyddwyr gwasanaeth/teulu a gofalwyr yn y rhanbarth ac yn fwy diweddar, mae wedi arwain ar ymarferion tendro ar gyfer gwasanaethau a chyfleoedd arbenigol i bobl ifanc sydd â phrofiad byw.

Ei maes gwybodaeth a phrofiad arbenigol yw camddefnyddio sylweddau, er nad yw hyn byth ar wahân ac mae'n fater amlweddog a chymhleth sydd wedi darparu mewnwelediad rheng flaen i ffactorau bregusrwydd a'u heffaith.

Mae hi wedi gweithio yn y maes camddefnyddio sylweddau am y 18 mlynedd diwethaf, yn ffurfiannol fel ymarferydd rheng flaen a rheolwr gwasanaeth, mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau - o wasanaethau lleihau niwed i ofal sy'n canolbwyntio ar adferiad.

Dechreuodd yn 2001 yn gweithio mewn lleoliadau dadwenwyno/adsefydlu preswyl ac yna symudodd i waith cyffuriau ac alcohol yn y gymuned yn y sector gwirfoddol, cyn sicrhau swydd gyda Thîm Gweithredu Cyffuriau ac Alcohol Cilgwri (DAAT). Daeth Vicky i Ogledd Cymru yn 2006, gan gomisiynu gwasanaethau yn ardal Wrecsam yn bennaf, cyn dechrau ar ei rôl yng Ngogledd Cymru yn 2014.

Mae ei gyrfa wedi cwmpasu awdurdodau lleol, sefydliadau'r bwrdd iechyd a'r sector gwirfoddol ac, yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio mewn amgylchedd partneriaeth ar draws ffiniau sefydliadol cymhleth.

Mae ei chefndir mewn seicoleg a throseddeg, ar ôl astudio ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac mae ganddi gymhwyster mewn cwnsela. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn adferiad a chyd-gymorth, ar ôl cyd-ysgrifennu papur ar adferiad gyda Dr David Best, arbenigwr blaenllaw ar ddibyniaeth.

Andrew M Bennett - Ymgynghorydd Cymorth Rhaglen, Camau Cynnar gyda’n Gilydd

Mae Andrew yn ymarferydd iechyd cyhoeddus sy'n cefnogi dull y Rhaglen ACE Genedlaethol o blismona yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Mae wedi helpu i ddatblygu ymarfer wedi'i hysbysu gan ACE yng ngogledd Cymru a rhannau eraill o'r DU ac Iwerddon yn ystod y tair blynedd diwethaf. Cynhyrchodd a chyd-ysgrifennodd Andrew animeiddiad yr ACE ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae Andrew wedi cefnogi rhaglenni alcohol a chyffuriau, ysmygu, gordewdra, heneiddio, iechyd rhywiol a rhaglenni brechu plant. Mae Andrew hefyd yn rheoli'r Gynhadledd Ryngwladol ar Fywyd y Nos, Defnyddio Sylweddau a Materion Iechyd Cysylltiedig ddwywaith y flwyddyn.

Yn gyn-weithiwr ieuenctid ac yn weithiwr a rheolwr cyffuriau, sefydlodd Andrew un o'r rhaglenni cyfnewid chwistrellau cyntaf yng nghanol yr 1980au yn y DU. Am gyfnod o 12 mlynedd hyd at 2007, Andrew oedd Rheolwr Gyfarwyddwr HIT. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth HIT yn eiriolwr ac yn ddarparwr uchel ei barch yn rhyngwladol wrth ymdrin â dulliau o leihau niwed, wedi ei seilio ar gwsmeriaid, yng nghyswllt cyffuriau a phryderon iechyd cyhoeddus eraill.