Mae partneriaid yn datrys problemau yn gydweithredol er mwyn sicrhau bod pobl fregus yn cael yr help sydd ei angen arnynt, ac wrth wneud hynny, yn lleihau'r galw y gellir ei ragweld ac y gellir ei ‘atal’.
Mae'r Rhaglen genedlaethol Camau Cynnar gyda'n Gilydd yn cyfrannu tuag at uchelgais ehangach cenedlaethau’r dyfodol i leihau Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod yng Nghymru. Fel rhan o'r uchelgais honno, mae rhaglen de Cymru yn canolbwyntio ar greu ‘system’ cyswllt cyntaf i ymyrryd, sy'n ymateb i fregusrwydd yn wahanol i'r ‘system’ bresennol oherwydd:
1. Mae partneriaid yn deall y berthynas negyddol rhwng adfyd, trawma a bregusrwydd ym mywydau pobl.
2. Mae partneriaid yn cytuno i weithio i bwrpas cyffredin a dylunio ac unioni arferion, prosesau, gweithdrefnau a pholisïau strategol a gweithredol i gyflawni'r diben hwnnw.
3. Wrth weithio tuag at bwrpas a rennir, mae partneriaid yn deall yr hyn y mae pawb yn ei wneud ar wahân a'r hyn y maent yn ei wneud gyda'i gilydd wrth ddiwallu anghenion pobl fregus.
4. Ar y ‘cyswllt cyntaf ’, mae gweithwyr proffesiynol yn ceisio deall anghenion pobl fregus a datrys problemau er mwyn cyfeirio, cefnogi neu ddiogelu.
5. Caiff pobl fregus eu cysylltu â'r cymorth sydd ei angen arnynt yn ôl y llwybr cyflymaf a byrraf.
6. Ar bob cyswllt, cesglir gwybodaeth ‘digon da’ fel y gall gweithwyr proffesiynol eraill wneud penderfyniadau ‘da’ wedi eu hysbysu gan wybodaeth i gyfeirio, cefnogi neu ddiogelu ar y llwybr cyflymaf.
7. Mae'r gweithlu wedi'i hyfforddi a’i gefnogi ac mae'n hyderus wrth ddeall sut i ymgysylltu a datrys problemau i gynorthwyo a chefnogi pobl fregus sydd mewn angen neu argyfwng.
8. Mae partneriaid yn parhau i wella'r ‘system’ cyswllt cyntaf i ymyrraeth a rennir i ymateb i alw am fregusrwydd rhagweladwy.
Y tîm
Chris Truscott, Uwch-arolygydd
Ymunodd Chris â Heddlu De Cymru ym mis Ionawr 1999 fel swyddog ymateb ar gyfer ardaloedd Porthcawl a Phen-y-bont am chwe blynedd cyn cael ei ddyrchafu'n Rhingyll yn cwmpasu rolau ymateb a phlismona lleol yn ardal Maesteg Pen-y-bont.
Yn 2011 ymunodd Chris â thîm swyddogion staff ym Mhencadlys yr Heddlu yn gweithio i Brif Swyddogion ac arweiniodd ar brosiect adolygu ledled yr heddlu ar y cyd â rhanbarth y Gogledd Orllewin.
Yn 2012, ymunodd Chris â chynllun Cenedlaethol Datblygu Potensial Uchel, lle y cwblhaodd ddiploma ôl-raddedig ac yna MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth yr Heddlu ym Mhrifysgol Warwick.
Yn 2013, cafodd Chris ei ddyrchafu i reng Arolygydd gan ymgymryd â rôl rheolwr digwyddiadau’r heddlu a rheolwr arfau tactegol yn yr ystafell reoli.
Yn 2014, arweiniodd Chris adolygiad o adnoddau a galw yn yr ystafell reoli gan arwain at greu model adnoddau sy'n seiliedig ar alw a oedd yn lleihau costau gweithredu yn sylweddol tra’n cyflawni lefelau uchel o berfformiad.
Yn 2015, cafodd Chris ei ddyrchafu i rôl Prif Arolygydd a'i leoli yng Nghanol Dinas Abertawe fel Pennaeth Gweithrediadau ac yna Pennaeth Cymunedau a Phartneriaethau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Ym mis Chwefror 2018, cafodd Chris ei ddyrchafu'n Uwch-arolygydd dros dro i arwain Rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd De Cymru, i drawsnewid y ffordd y mae plismona yn delio â bregusrwydd trwy ymyrraeth gynnar ac atal achosion gwreiddiol.
Shaun Kelly, Arweinydd y Bartneriaeth
Shaun yw Arweinydd Partneriaeth ar gyfer E.A.T. De Cymru. Chwaraeodd Shaun ran annatod yn y gwaith o ddatblygu prosiect dull wedi ei hysbysu gan ACE i Blismona Bregusrwydd a ariennir gan Gronfa Arloesedd yr Heddlu, a ddarparodd lawer o'r dystiolaeth ar gyfer rhaglen genedlaethol Camau Cynnar gyda'n Gilydd.
Mae Shaun wedi cael gyrfa helaeth mewn Gwasanaethau Plant yn ne Cymru, yn gweithio fel rheolwr strategol a gweithredol yn y sectorau statudol, annibynnol a thrydydd sector ac fel datblygwr gwasanaeth ar nifer o ddulliau arloesol.
Mae Shaun wedi gweithio fel Uwch-ddarlithydd mewn addysg a hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol ym meysydd amddiffyn plant, gweithio aml-asiantaeth, cam-drin domestig, gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal, datblygu gwasanaethau a newid sefydliadol.
Bronwyn Churches, Cymorth Prosiect
Cwblhaodd Bronwyn ei hyfforddiant MRN ym 1994 gan ennill App B Sci (Anableddau Deallusol) o Brifysgol Deakin ym Melbourne Awstralia.
Mae Bronwyn yn weithiwr gweinyddu profiadol gyda chefndir o weithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Llywodraeth, Addysg Uwch, y trydydd sector a diwydiant preifat yn Awstralia a'r DU.
Mae gan Bronwyn hefyd Faglor mewn Gwyddoniaeth (BSc) sy'n canolbwyntio ar Seicoleg Gymhwysol o Brifysgol De Cymru ac mae wedi cwblhau NVQ3 a Phrentisiaeth mewn Busnes a Gweinyddu.
Debbie Davies, Rheolwr Prosiect
Ymunodd Debbie â Heddlu De Cymru yn 1997 yn y Biwro Cofnodi Troseddau cyn symud ymlaen i rôl clerc Ymchwiliad Gorsaf yng Ngorsafoedd Heddlu Pen-y-bont a Maesteg.
Yn 2004 aeth Debbie ymlaen i ymuno â'r tîm Hyfforddiant TG Dysgu a Datblygu lle cwblhaodd ei Thystysgrif Addysg. Ar ôl nifer o flynyddoedd gyda'r tîm LDS, ymunodd Debbie â thîm Cynllunio'r Heddlu a daeth yn rhan o gynllunio digwyddiadau mawr a lleol.
Mae Debbie wedi gweithio mewn nifer o rolau cymorth rheng flaen cyn ymwneud â nifer o brosiectau mawr, yn bennaf o ran gweithredu systemau TG, cyn ymuno â Rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd De Cymru fel rheolwr prosiect ym mis Awst 2018.