Mae'r rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd yn gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru i fwrw ymlaen â'r uchelgais hon a chefnogi dull system gyfan, cyd-gysylltiedig o ymdrin ag ACE ar draws system gyfan y bartneriaeth plismona/cyfiawnder troseddol.
Maes ffocws allweddol i bartneriaid sy'n rhan o'r ffrwd gwaith cyfiawnder troseddol yw creu gweithlu sy'n ymwybodol ac yn wybodus ynghylch ACE, gan roi sgiliau ac arbenigedd ychwanegol i staff i gydnabod effaith ACE ac ymateb mewn ffordd sy'n ceisio lliniaru'r effaith hon a grymuso unigolion i adeiladu gwytnwch i wella eu cyfleoedd bywyd.
Yn ogystal â hyfforddiant staff, mae partneriaid yn datblygu eu dealltwriaeth o ymyriadau ac ymagweddau effeithiol tuag at gefnogi unigolion sydd wedi profi ACE, ar wahanol adegau ar y llwybr cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys profi dulliau ac ymyriadau sy'n ceisio goresgyn adfyd, adeiladu gwytnwch i gefnogi ymatal rhag troseddu, a thorri’r cylch rhyng-genhedlaeth o ACE ar gyfer eu plant. Mae rhai enghreifftiau o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes hwn yn cynnwys:
- Treialu'r Pecyn Adfer ACE yn y cyd-destun prawf - rhaglen 10 wythnos yw hon a ddatblygwyd gan Rockpool. Ategir y rhaglen gan fodel seico-addysgiadol seiliedig ar drawma, sy'n anelu at gefnogi pobl sydd wedi profi ACE, trwy roi strategaethau ymarferol i gyfranogwyr i'w helpu i ddatblygu gwydnwch, cynyddu eu gobaith a galluogi adferiad.
- Treialu dull Rheoli Achosion Uwch (ECM) tuag at weithio gydag unigolion bregus sydd wedi profi ACE o fewn cyd-destun y ddalfa. Mae'r dull ECM yn tynnu ar ddysgu o gymhwyso'r Model Gwella o Drawma yng nghyd-destun cyfiawnder ieuenctid, ac mae'n cynnwys cymorth wedi'i dargedu a’i seilio ar gryfderau ar ffurf dull aml-asiantaeth wedi ei arwain gan seicoleg o lunio achosion a chynllunio ymyrraeth.
Mae partneriaid cyfiawnder troseddol sy'n cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi ymrwymo i gymryd ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio dysgu o ymchwil sy'n dod i'r amlwg ynghylch ACE (yn enwedig ymhlith y boblogaeth droseddol) ac ymatebion effeithiol i ACE i barhau i lywio a datblygu'r maes gwaith pwysig hwn.