Liz Baker, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Barnardo's Cymru
Liz Baker yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardo's ar gyfer ardal Caerdydd a'r Fro, sy'n rheoli portffolio amrywiol o wasanaethau gan gynnwys lles teuluol, cwnsela mewn ysgolion, Reflect, a phlant ag anableddau.
Gan gychwyn ar ei gyrfa mewn iechyd meddwl difrifol, cwblhaodd Liz radd seicoleg yn 1993 a bu'n gweithio mewn lleoliadau preswyl a chymunedol gydag oedolion, plant a phobl ifanc, gan arbenigo mewn iechyd meddwl ac awtistiaeth. Wedi ennill cymhwyster fel Gweithiwr Cymdeithasol yn 2000, cyflogwyd Liz yng ngwasanaeth troseddwyr ifanc RhCT am wyth mlynedd cyn symud i Barnardo's fel rheolwr.
Mae portffolio darpariaeth Liz wedi cynnwys cymorth i deuluoedd, camddefnyddio sylweddau, gofalwyr ifanc, cam-drin domestig a Phartneriaeth Gydweithredol Casnewydd gyda ffocws cryf ar ymyrraeth gynnar a gwasanaethau difrifol i deuluoedd ag anghenion cymhleth.
Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda'r Athro Gordon Harold ar ddatblygu teclyn asesu canlyniadau ar gyfer plant sy'n cael eu heffeithio gan wrthdaro rhwng rhieni/cam-drin domestig. Liz yw arweinydd Barnardo's ar gyfer y Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd, lle mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Heddlu yn cymryd ymagwedd iechyd cyhoeddus wybodus ACE at blismona a chyfiawnder troseddol.
Emma Reed, Uwch Gydlynydd ACE
Mae Emma Reed wedi gweithio i Barnardo's Cymru ers dros 12 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi datblygu a gweithio gyda phrosiectau ar draws ardal de Cymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu prosiect i gefnogi plant yr effeithiwyd arnynt gan garchariad rhieni.
Mae gwaith Emma wedi cynnwys gwaith uniongyrchol gyda phlant a darparu hyfforddiant i bartneriaid aml-asiantaeth ynghylch cynyddu ymwybyddiaeth am yr effaith ar garchariad rhieni.
Mae Emma wedi gweithio gyda theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth, lluosog ac wedi cefnogi pobl ifanc a oedd mewn perygl o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd hi hefyd yn gyfrifol am recriwtio a goruchwylio gwirfoddolwyr ar gyfer y prosiect hwn.
Julie Morgan, Cydlynydd ACE Gweinyddwr Gwasanaeth
Cyn secondiad Julie i Barnardo's ym mis Mehefin 2018, gweithiodd hi i’r Gwasanaeth Prawf am 15 mlynedd. Ei rôl diweddaraf oedd Rheolwr Dyddiadur Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd. Bu hefyd yn gweithio gydag Arweinydd Gwrthderfysgaeth a Throseddu Cyfundrefnol Difrifol Cymru.
Mae ei rolau gweinyddol blaenorol o fewn y gwasanaeth prawf wedi cynnwys Llys y Goron Caerdydd a'r Ynadon a chyda'r Swyddogion Prawf Gweithredol o fewn Westgate Street Caerdydd.
Carly James-Gray, Cydlynydd ACE De Cymru
Gweithiodd Carly gyda Chymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant lle y darparodd y Tystysgrif mewn Ymarfer Gwarchod Plant, a oedd yn cynnwys sesiynau ar Amddiffyn Plant a Rheoli Ymddygiad Plant. Yna, gweithiodd Carly gydag Ymddiriedolaeth Prawf Cymru lle treuliodd y 10 mlynedd diwethaf yn bennaf fel hwylusydd yn y Tîm Ymyriadau, gyda chyfnod byr o reoli achosion.
Mae Carly wedi darparu amrywiaeth o raglenni achrededig gan gynnwys Arferion Therapi Ymddygiad Gwybyddol i grwpiau o droseddwyr fel y'u dedfrydwyd gan y llysoedd.
Mae Carly wedi ei hyfforddi i ddarparu nifer fawr o raglenni dros y blynyddoedd. Mae'r rhaglenni hyn yn amrywio o Raglenni Ymddygiad Cyffredinol fel y rhaglen Sgiliau Meddwl sy'n cynnwys Hunanreoli, Datrys Problemau a Pherthynasau Cadarnhaol, yn ogystal â'r Rhaglen Cam-drin Domestig Integredig ar gyfer Troseddwyr Trais yn y Cartref.
Mae Carly wedi datblygu diddordeb cryf dros y blynyddoedd diwethaf mewn trais domestig ac wedi gweithio yn ei thîm fel hwylusydd a gweithiwr Diogelwch/Cyswllt Partner y Menywod.
Leanne Martin, Cydlynydd ACE De Cymru
Mae gan Leanne dros 10 mlynedd o brofiad mewn cefnogi pobl o bob oed. Ar ôl graddio gyda BSc mewn Astudiaethau Cyfiawnder Troseddol gyda Chyfiawnder Cymdeithasol a Hawliau Dynol, mae hi wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa yn cefnogi defnyddwyr cyffuriau ac alcohol o bob oed.
Gweithiodd Leanne i Sefydliad Troseddwyr Ifanc Ei Mawrhydi (HMPYOI) i hwyluso a mynd i'r afael â throseddu sy'n gysylltiedig â sylweddau gyda dynion 18 oed a hŷn.
Mae Leanne wedi gweithio mewn nifer o rolau tebyg gydag asiantaethau lleol, yn amrywio o ddarparu rhaglen waith i oedolion a oedd wedi eu rhyddhau o'r carchar yn ddiweddar a'u helpu i ailintegreiddio yn ôl i'r gymuned, i weithio fel eiriolwr ymgynghorol ar linell gymorth 24 awr i helpu i ddiogelu pobl ifanc yng Nghymru.
Yn fwy diweddar, bu'n gweithio gyda Media Academy Cardiff a Heddlu De Cymru ar y Prosiect Triage 1825, gan weithio gyda phobl ifanc 18-25 oed a defnyddio rhaglen o ymagwedd adferol.
Luthfur Ullah (Lofa), Cydlynydd ACE De Cymru
Mae Lofa wedi gweithio i wasanaethau ieuenctid a chymunedol ers dros 10 mlynedd. Mae wedi gweithio mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol gyda phobl ifanc, oedolion a gweithwyr proffesiynol. Mae gan Lofa brofiad o sefydlu a chyflwyno prosiectau cymorth ieuenctid a theuluoedd pwrpasol, gan gefnogi cymunedau difreintiedig a phobl ifanc anfodlon. Mae gan Lofa brofiad o weithio gyda hiliaeth, Islamoffobia a phobl ifanc NEET.
Rôl flaenorol Lofa oedd yn y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig fel rheolwr ar y prosiect Cyswllt Teulu. Daeth Lofa yn Rheolwr Datblygu Hyfforddiant yno, a datblygodd becynnau hyfforddi a gyflwynodd i bobl ifanc a sefydliadau trydydd sector.
Stephanie Callender, Cydlynydd ACE De Cymru
Mynychodd Stephanie Brifysgol Fetropolitan Abertawe ac ennill Anrhydedd BA Dosbarth Cyntaf mewn Addysg Gynradd, a threuliodd sawl blwyddyn yn addysgu plant ysgol gynradd. Yn dilyn hyn, gweithiodd Stephanie gyda'r NSPCC/ChildLine fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Chydlynydd Ardal ar gyfer Gwasanaeth Ysgolion ChildLine.
Fel Cydlynydd Ardal ar gyfer Gwasanaeth Ysgolion ChildLine, roedd hi’n gyfrifol am weithredu mentrau cenedlaethol ar lefel leol yn ne Cymru, a oedd yn cynnwys darparu gwasanaethau diogelu a gweithdai ynghylch cam-drin plant oed cynradd, recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr. Yn 2012, ymunodd Stephanie â Heddlu De Cymru fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO).
Yn rôl Stephanie fel PCSO, gweithiodd gydag asiantaethau partner i gynyddu ymwybyddiaeth o droseddau casineb fel Swyddog Ymgysylltu â Throseddau Casineb.
Darparodd Stephanie gyflwyniadau/gweithdai, trefnodd a hwylusodd hyfforddiant PREVENT a Bregusrwydd, trefnodd a chadeiriodd fforymau grwpiau lleiafrifol a gweithiodd yn agos gydag asiantaethau partner. Ym mis Hydref 2017, dechreuodd Stephanie weithio gyda Dinas a Sir Abertawe ar y cyd â'r Swyddfa Gartref fel Cydlynydd Gwrth-Eithafiaeth.
Karon Eyers, Cydlynydd ACE Gwent
Astudiodd Karon BA mewn Cyfiawnder Troseddol a Chymunedol, BSc Troseddeg, TAR - yn arbenigo mewn Troseddeg, Dioddefiaeth, Cyfiawnder Troseddol ac Adferol.
Mae gan Karon dros 15 mlynedd o brofiad o weithio gyda dioddefwyr, tystion a throseddwyr, gan arbenigo mewn Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ers dros ddegawd. Wrth astudio yn y brifysgol, gwirfoddolodd Karon ar gyfer nifer o wasanaethau yn y trydydd sector. Yn 2013, dechreuodd ddarlithio mewn troseddeg fel llawrydd yn y brifysgol.
Cafodd Karon ei chydnabod am ei gwaith mewn nifer o feysydd ac ers hynny, mae wedi ennill gwobrau ar gyfer: Menywod yn Arwain yng Nghymru - Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus (2012), Gwobr Ysbrydoledig Unigol (2013), Gwobr Trawsnewid Gweithio mewn Partneriaeth (2013), Gwobr Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig (2013) a Gwobr Fawreddog gan Brifysgol De Cymru (2017) am ymchwil a wnaed i VAWDASV a'r newidiadau yn neddfwriaeth Cymru.
Lisa Roberts, Cydlynydd ACE Dyfed-Powys
Graddiodd Lisa gyda BSc mewn Seicoleg ac LLB yn y Gyfraith ac mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda bregusrwydd. Gweithiodd Lisa gyda Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal gyda phobl ifanc sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol, yn gyntaf fel rhan o'u tîm atal ac yna'n cyflwyno rhaglenni yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol.
Yn ogystal, treuliodd Lisa rai blynyddoedd yn hwyluso Cyfarfodydd Panel trwy orchmynion llys yn seiliedig ar gyfiawnder adferol. Yn 2011, gweithiodd Lisa i Genesis, prosiect sy'n mynd i'r afael ag achos gwreiddiol diweithdra.
Mae Lisa wedi treulio'r chwe blynedd diwethaf yn gweithio gyda thrais domestig a rhywiol risg uchel gyda Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru fel Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol.
Linda Wood, Cydlynydd ACE Dyfed-Powys
Mae gan Linda dros 33 mlynedd o brofiad gyda Heddlu De Cymru. Dechreuodd ar ei gyrfa gyda’r heddlu yn Ystafell Reoli y Gorllewin, lle y symudodd o'r consol monitro i dderbyn galwadau 999. Yn ddiweddarach, gweithiodd Linda fel Clerc Ymholiadau Gorsaf lle'r oedd yn delio â theuluoedd bregus wyneb yn wyneb.
Mae Linda wedi bod yn aelod o banel ar fyrddau diogelu ar draws ardal Heddlu De Cymru ac wedi cymryd rhan mewn sawl adolygiad o achos difrifol a sawl achos proffil uchel, yn cynnal ymchwil gan NICHE a chronfeydd data etifeddiaeth SWP. Rôl Linda dros y 14 mlynedd diwethaf oedd fel Swyddog Ymchwil a Datblygu Polisi Ymchwiliol o fewn Adran Diogelu'r Cyhoedd.
Sarah Barnett, Cydlynydd ACE Gogledd Cymru
Mae Sarah wedi arwain darpariaeth hyfforddiant haen un ar gyfer gwasanaeth camddefnyddio sylweddau Barnardo's yng Nghonwy a Sir Ddinbych ers y chwe blynedd diwethaf, gan ddarparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol i gynyddu eu dealltwriaeth o gamddefnyddio sylweddau.
Cyn hynny, gweithiodd Sarah o fewn y tîm Gadael Gofal, yn cefnogi pobl ifanc ag anghenion cymhleth gan gynnwys iechyd meddwl, tai, addysg a sgiliau byw yn annibynnol.
Mae Sarah wedi gweithio gyda phobl ifanc o fewn lleoliad ysgol a oedd mewn perygl o gael eu gwahardd o'r ysgol neu addysg. Byddai Sarah yn dysgu'r bobl ifanc trwy becynnau addysg amgen er mwyn eu cefnogi i lwyddo ac ennill cymhwyster.
Mae Sarah wedi dysgu o fewn campws coleg ar amrywiaeth o gyrsiau fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gradd Sylfaen yr Heddlu.
Gemma Closs-Davies, Cydlynydd ACE Gogledd Cymru
Mae gan Gemma 14 mlynedd o brofiad traws-sector yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol, Addysg a Thai. Cyn dod yn Gydlynydd ACE, gweithiodd hi i'r Landlord Cymdeithasol Grŵp Cynefin, yn cydlynu y prosiect atal digartrefedd ieuenctid o fri, ‘Going it Alone’. Astudiodd Gemma y Gyfraith ym Mhrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn tra'n gweithio'n rhan amser gyda phobl ifanc mewn lleoliad gofal preswyl.
Yn 2006, symudodd Gemma i ogledd Cymru, i brosiect ymyrraeth frys gan ddefnyddio addysg awyr agored fel dull therapiwtig i gefnogi pobl ifanc sy'n arddangos ymddygiadau heriol ac sy'n niweidio iechyd; yn aml o ganlyniad i brofiadau niweidiol mewn plentyndod.
Yn 2009, daeth Gemma yn Gydlynydd ar gyfer y prosiect Going It Alone, gan ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn tai a digartrefedd ymysg pobl ifanc, yn enwedig y cysylltiadau rhwng ACE a digartrefedd a'r angen am ymyriadau cynnar trwy bartneriaeth. Mae Gemma hefyd yn athro cymwys ac yn asesydd galwedigaethol, ac mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd, ac yn ddiweddar wedi pasio ei arholiad sylfaen.