Pwrpas bwrdd y rhaglen yw goruchwylio rhaglen ACE yr Heddlu a Phartneriaid – Camau Cynnar gyda’n Gilydd ar lefel genedlaethol, gan archwilio a llywio i sicrhau bod yr amcanion strategol yn cael eu cyflawni ar sail partneriaeth gydweithredol.
Mae'r bwrdd yn gweithredu fel hyrwyddwyr y rhaglen ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid partner ac yn dylanwadu arnynt. Mae bwrdd y rhaglen yn darparu fforwm ar gyfer ymgynghori, datblygu consensws, gosod cyfeiriad a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r rhaglen. Mae'r bwrdd hefyd yn darparu gwaith archwilio ariannol a rheoli risgiau a materion.
Emma Wools, Cadeirydd Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd
Ymgymerodd Emma Wools â rôl Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 14 Tachwedd 2016 ac mae wedi'i secondio o'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yng Nghymru (NOMS). Pwrpas y rôl yw cefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ei waith.
Mae Emma wedi arwain timau aml-asiantaeth, gan gydweithio ag ystod eang o asiantaethau mewnol ac allanol, yn nodi a gweithredu cyfleoedd i integreiddio gwasanaethau ar draws y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.
Yn gweithio i'r gwasanaeth prawf ers 2001, dechreuodd Emma ar ei thaith arweinyddiaeth yn cydlynu Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM) yng Nghaerdydd.
Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r esiampl hon o arfer da, a gyfrannodd yn fawr at y sefyllfa bresennol o ran partneriaethau yng Nghymru a strategaeth a pholisi cenedlaethol.
Dilynodd rolau Datblygu Busnes a Rheoli Rhaglenni IOM Cymru, cyn ei rôl arweinyddiaeth ddiweddaraf fel Pennaeth Integreiddio Gwasanaethau Troseddwyr, y rôl arwain gyntaf o fewn y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yn dwyn cyfrifoldebau ar draws Carchardai'r Sector Cyhoeddus, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a phartneriaethau.
Gill Richardson, Is-gadeirydd Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd
Mae Gill wedi gweithio yn y GIG am fwy na 30 mlynedd fel meddyg Iechyd Plant Cymunedol, meddyg teulu a Darlithydd mewn Gofal Sylfaenol, yna fel Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili, yna Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 2003-2017.
Mae wedi bod yn aelod o fforwm lleol Gwent, 4 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol Gwent a bu'n Gadeirydd Bwrdd Cynllunio Ardal Gwent ar Gamddefnyddio Sylweddau.
Mae hi wedi cyhoeddi ar achosion o glefydau heintus mewn dŵr, firysau a gludir yn y gwaed, iechyd ac annhegwch cardiofasgwlaidd, annhegwch o ran canser, newid yn yr hinsawdd, effeithiau ymfudo ar iechyd a llythrennedd iechyd.
Mae hi'n frwdfrydig dros fynd i'r afael ag annhegwch mewn iechyd a hyrwyddo gwydnwch iechyd meddwl fel rhagflaenydd i wella iechyd.
Mae wedi eistedd ar reolaeth Aur ar gyfer uwch-gynhadledd NATO y Celtic Manor, goruchwylio adolygiad 4 cenedl fawr ar hepatitis C yn y DU ac mae'n eistedd ar sawl grŵp 5 Gwlad ar gyfer Iechyd Rhyngwladol a Gwella Iechyd.
Ar hyn o bryd mae'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio profiad rhyngwladol blaenorol mewn iechyd yng ngogledd a gorllewin Affrica, India a Hong Kong.
Hi yw arweinydd Iechyd Cyhoeddus Cymru dros Affrica ac mae'n cynrychioli GIG Cymru ar y gweithluoedd Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Cenedlaethol a Digartrefedd.
Mae hi hefyd yn aelod o Gyfadran Pwyllgor Moeseg PH UK, Bwrdd Rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf, Cymru Iach, grŵp Llywio Hyb Cymorth ACE ac yn Is-gadeirydd Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd.
Stephen Hughes, Is-gadeirydd Bwrdd Rhaglen Genedlaethol Camau Cynnar gyda’n Gilydd a Chadeirydd Is-Bwyllgor Cyllid, Risg a Rheolaeth Fewnol
Stephen Hughes yw Is-gadeirydd Bwrdd Rhaglen Genedlaethol Camau Cynnar gyda’n Gilydd a Chadeirydd Is-Bwyllgor Cyllid, Risg a Rheolaeth Fewnol.
Stephen yw Prif Weithredwr Swyddfa'r Chomisiynydd Heddlu a Throsedd yng Ngogledd Cymru, rôl y mae wedi'i gynnal ers 2015. Mae'n arwain yr swyddfa ac yn cefnogi'r Comisiynydd trwy gydweithio'n agos â Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid i sicrhau bod Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd yn cael ei chyflwyno.
Cyn y rôl hon, bu'n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru am ddeuddeg mlynedd mewn gwahanol rolau, gan gynnwys dadansoddwr a rheolwr busnes. Yn ei amser hamdden mae'n darparu gwasanaeth tacsi i'w ddau blentyn ac yn cydlynu eu calendr cymdeithasol prysur iawn.