Mae'r rhaglen yn cefnogi'r heddlu, gwasanaethau carchardai a phrawf i weithio ar y cyd ag aml-asiantaethau (e.e. gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, tai, y trydydd sector ayb.) ledled Cymru fel y gallant adnabod pobl fregus, ymyrryd yn gynnar a'u cadw allan o'r system cyfiawnder troseddol, torri cylch cenedliadol troseddu ac yn y pen draw, wella eu bywydau.
Mae'r rhaglen yn gwneud hyn yn bennaf trwy hyfforddi staff rheng flaen yr heddlu a chyfiawnder troseddol a rhoi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i weithio gyda phartneriaid eraill a chynnig cymorth i bobl fregus sydd wedi profi trawma.
Mae 90% o'r galw ar yr heddlu yn ymwneud â materion lles, diogelwch y cyhoedd a bregusrwydd cymhleth felly maent mewn sefyllfa dda i ymyrryd yn fwy effeithiol a lleihau effaith ACE a thrawma.
Mae'r heddlu'n cydnabod y gallant wneud gwahaniaeth mawr, ymyrryd yn gynnar a chreu gwell canlyniadau i'r bobl fregus hyn. Ond ni allant wneud hyn ar eu pennau eu hunain.
Mae'r heddlu am ymuno â'r holl wasanaethau rheng flaen - carchardai a’r gwasanaeth prawf, addysg, tai, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, iechyd - a gweithio fel system gyfannol.
Gall llawer o ddynion a menywod sydd mewn carchar neu ar brawf fod wedi profi trawma lluosog a meddu ar amrywiaeth o anghenion cymhleth, gan eu gwneud yn fwy bregus a chynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn aildroseddu dro ar ôl tro.
Mae'n bwysig bod gan y rhai sy'n gweithio gyda throseddwyr ymwybyddiaeth o ACE ac arfer gaiff ei hysbysu gan drawma er mwyn helpu i gefnogi y broses o ddiwygio'r rheiny sydd yn y system cyfiawnder troseddol.
Darllenwch fwy am y gorchwyl a'r amcanion