Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid Plismona a Chyfiawnder Troseddol ledled Cymru wedi llofnodi cytundeb i gydweithio i wella ansawdd bywyd, lles a diogelwch pobl Cymru.
Mae'r Cytundeb Partneriaeth Iechyd Cyhoeddus, Plismona a Chyfiawnder Troseddol yn arwydd o ymrwymiad i newid yr ymagwedd tuag at blismona trwy ddefnyddio sail dystiolaeth iechyd cyhoeddus i ddeall y cyd-destun Plismona a Chyfiawnder Troseddol presennol ac adnabod ymyriadau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddau sy'n gysylltiedig â bregusrwydd.
Mae'r cytundeb newydd hwn yn cydnabod bod Plismona a Iechyd Cyhoeddus yn gysylltiedig. Yr Heddlu yw'r ymatebwyr cyntaf i amrywiaeth o sefyllfaoedd sy'n ymwneud â materion iechyd cyhoeddus troseddol neu sifil.
Rydym yn gwybod bod llawer o'r hyn y mae'r heddlu'n ymateb iddo yn gysylltiedig â chynnal iechyd a lles, felly mae cymryd ymagwedd iechyd cyhoeddus yn darparu fframwaith defnyddiol i ddeall y ffactorau risg a'r blociau adeiladu sydd eu hangen i fynd i'r afael â bregusrwydd a chynyddu gwytnwch.

Mae'r partneriaid yn cynnwys:
- Y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r pedwar Prif Gwnstabl ar gyfer De Cymru, Gogledd Cymru, Dyfed Powys a Gwent
- Cyfarwyddwr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru
- Prif Weithredwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Cyfarwyddwr Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Cymru
- Cyfarwyddwr Cymru y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru

