Ymchwil ACE
Bydd tîm o ymchwilwyr yn casglu ac yn profi newidiadau a datblygiad systemau, prosesau ac ymyriadau newydd. Bydd nifer o werthusiadau ac astudiaethau ymchwil yn cael eu cynnal ar lefel genedlaethol a lleol i ddangos effaith y rhaglen yn unol â'r amcanion.
Bydd ymchwilwyr yn gweithio'n uniongyrchol gyda staff gweithredol yr heddlu a chyfiawnder troseddol i ddeall eu profiadau o weithio gyda phobl fregus ac asiantaethau partner, casglu effaith y rhaglen ar wybodaeth, sgiliau ac ymarfer, adnabod rhwystrau i weithredu newid ac i sicrhau bod yr hyn a ddarperir wedi'i ategu gan sail tystiolaeth gadarn.
Cesglir data trwy gyfweliadau, holiaduron, astudiaethau achos, data'r heddlu (e.e. data galw, data llesiant) a phrosesau sicrhau ansawdd.
Adroddiadau iechyd cyhoeddus Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor: Polisi, Ymchwil a Datblygiad Rhyngwladol
Adroddiadau ACE
Darellenwch yr adroddiadDarellenwch yr adroddiad